Dosbarth Meistr 1 - Atgofion Gwefreiddiol | Masterclass 1 - Moving Memories



Rhagfyr 6ed 2019 
Dosbarth Meistr 1  -  Atgofion Gwefreiddiol 
Gweithdy gludwaith tecstilau cyfryngau cymysg dan arweiniad yr artist tecstilau Anne Kelly.
www.annekellyartist.net

6th December 2019 
Masterclass 1  -  Moving Memories 
A mixed-media textile collage workshop led by textile artist Anne Kelly.
www.annekellyartist.net


Bydd Anne yn casglu ffabrig, papur ac effemera wedi’u hailgylchu gan ddefnyddio gludwaith, pwyth, prosesau ffotograffig a phrint i greu tecstilau cyfryngau cymysg, wedi’u fframio ac yn crogi’n rhydd. Daw ei hysbrydoliaeth o deithio a chof a chelfyddyd dieithryn a chelfyddyd werin. Mae ei darnau sydd wedi’u brodio’n drwm a rhai gweadeddol wedi’u disgrifio fel ‘bydoedd bychan', gyda sgrap bach neu ddarn o ffabrig a all ysbrydoli darn cyfan. Mae’r llyfr cyntaf iddi ei ysgrifennu ar y cyd 'Connected Cloth' yn adlewyrchu ei gwaith prosiect yn y DU a thramor.

Anne collects recycled fabric, paper and ephemera using collage, stitch, photographic and print processes to create mixed media textiles, framed and free hanging. Her inspirations are taken from travel and memory and both outsider and folk art. Her heavily embroidered and textural works have been described as 'small worlds', with a small scrap or remnant of fabric that can inspire a whole piece. Her first co-written book 'Connected Cloth' reflects her project work in the UK and abroad.




Dechreuodd ein pymtheg o fyfyrwyr Codi’r Bar ar eu sesiwn dosbarth meistr cyntaf un gan gyfarfod ag Anne a’i gwaith. Yna fe helpodd Anne y grŵp i archwilio gwaith y dylunydd tecstilau Neil Bottle www.neilbottle.co.uk a oedd ag arddangosfa Y Cwbl sydd Ar Ôl i’w gweld yn Orielau 2 a 3 yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Mae printiau tecstil Neil wedi’u hysbrydoli gan ffotograffau teulu, ymdeimlad o dreigl amser a’r ffordd y byddwn yn cofio pethau - mewn atgofion sy’n real ac yn ffug.

Our fifteen Raising The Bar students began their very first masterclass session meeting Anne and her works. Anne then helped the group to examine the work of textile designer Neil Bottle www.neilbottle.co.uk whose exhibition All That Remains was showing in Ruthin Craft Centre’s Galleries 2 and 3. Neil’s textile prints are inspired by family photographs, a sense of time passing and how we remember things – in both real and false memories.






Roedd Anne wedi gofyn i’r myfyrwyr feddwl am themâu cyn dod i’r gweithdy. Dewisodd y myfyrwyr eitemau a oedd yn ymwneud â’u teulu, eu cartrefi neu eu hamgylchoedd agos a phrofiadau gwyliau. Roedd defnyddiau crai yn cynnwys astudiaethau llyfrau braslunio, ffotograffau a swfenîrs fel tocynnau teithio.
Anne had asked the students to think about themes before attending the workshop. The students chose items relating to their family, their homes or their close surroundings and holiday experiences. Source materials included sketchbook studies, photographs and mementos such as travel tickets.


Yna fe’u cyflwynwyd i ddull a phroses Anne, y ffordd y bydd yn defnyddio papur a brethyn mewn ffordd sy’n haenu ac yn ludweithiol. Roedd y dosbarth meistr wedi’i rannu’n dair rhan. Dewis a chasglu defnyddiau, addasu ac addurno’r rhain drwy stampio, argraffu ac arlunio. Haenu ffabrig, papur a delweddau drwy wneud trosluniau ffabrig o ffotograffau a defnyddio papur sidan a glud i atgyfnerthu papur yn barod ar gyfer pwytho ac i greu gweadedd.

They were then introduced to Anne’s approach and process, how she uses paper and cloth in a layering and collaged manner. The masterclass was divided into three parts. Choosing and collecting materials, adapting and embellishing these through stamping, printing and drawing.Layering fabric, paper and images by making fabric transfers of photos and using tissue and glue to reinforce paper ready for stiching and to create texture.




Yna dechreuodd y myfyrwyr ar y broses o gynnull a chyfansoddi eu gludweithiau.
The students then began the process of asssembling and composing their collages.


Roedd y cam olaf yn golygu pwytho â llaw, a choladu’r gludwaith yn ddarn unol.
The final stage involved hand stitching, and collating the collage into a unified piece.













Comments