Gethin Ceidiog Hughes: Dylunydd ac Artist | Gethin Ceidiog Hughes : Artist Designer

GETHIN CEIDIOG HUGHES 

Dylunydd ac artist yn Nyffryn Clwyd yw Gethin Ceidiog Hughes,  a’i brif ffocws yw tecstilau a creu printiau. Mae Gethin wedi cytuno i drafod gyda myfyrwyr Codi'r Bar 2019/20 am ei brofiadau fel myfyriwr, dylunydd ac artist.


Gethin Ceidiog Hughes is an artist designer based in the Vale of Clwyd whose main focus is textiles and printmaking.  Gethin has kindly agreed to share with the 2019/20 RTB students his experiences as a student and designer artist.


“Ar hyn o bryd rwy’n gweithio dan fy mrand Wilding sef enw canol fy mam.   Fy ngwaith tecstilau diweddar oedd cynhyrchu sgarffiau sydd wedi’u gwehyddu’n draddodiadol gan ddefnyddio sidan a denim.  I gynhyrchu fy ffabrigau i, byddaf yn cydweithio â melin ffabrigau draddodiadol yng Ngorllewin Swydd Efrog.

 

Fe gynhyrchir fy sgarffiau mewn sawl cam.  Fe olchir pob darn yn unigol a’i orffen â llaw â gofal a sylw mawr i gael y gorau o’r defnydd moethus.  Bydd hyn yn sicrhau fy mod yn creu sgarff o ansawdd eithriadol gan ddefnyddio dulliau traddodiadol wrth ennyn dyluniad cyfoes a thrawiadol.

 

Mae fy mhroses ddylunio i wedi’i hysbrydoli gan baentiad o’r enw The Black Square. Cafodd ei baentio gan yr artist Rwsiaidd, Kazimir Malevich. Mae hyn yn dilyn ymchwil a wnes i pan oeddwn yn astudio am fy Ngradd Meistr yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.

 

Mae fy mhrosiect diweddaraf wedi bod mewn cydweithrediad â Chanolfan Grefft Rhuthun ac fe’i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Nod y prosiect yw archwilio dulliau gwehyddu arbrofol gan ddefnyddio sidan Japaneaidd a gweld sut y gellid cymhwyso hyn i wneud printiau.  Fy ngobaith i yw arddangos y gwaith newydd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun yn hydref 2020.”


“I currently work under my brand Wilding which is named after my mothers middle name. My recent textile work has been to produce traditional woven scarves using silk and denim. To produce my fabrics, I collaborate with a traditional fabric mill in West Yorkshire.

 

The production of my scarves is in several stages. Each piece is individually washed and finished by hand with great care and attention to bring the best out the luxurious material. This ensures I deliver a scarf of exceptional quality using traditional methods whilst evoking a striking and contemporary design.

 

My design process is inspired by a painting called the Black Square. It was painted by the Russian artist, Kazimir Malevich. This follows research I undertook while studying for my Masters Degree at the Cardiff School of Art and Design.

 

My recent project has been in collaboration with Ruthin Craft Centre and is supported by The Arts Council of Wales. The aim of the project is to explore experimental weaving techniques using Japanese silk and seeing how this could be applied to printmaking. My hope is to exhibit the new work at Ruthin Craft Centre in Autumn 2020.”








Comments